Profiad wedi’i deilwra
Mae’r Hwb Gwybodaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau e-ddysgu, canllawiau a thrafodaethau rhwng cymheiriaid, ond sut gallwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n berthnasol i chi?
Yn ogystal â thudalennau glanio newydd i’ch helpu i bori, mae’r Hwb Gwybodaeth yn caniatáu i chi ddewis meysydd o ddiddordeb sy’n addas i’ch anghenion (gan ddefnyddio categorïau fel cyfathrebiadau, adnoddau dynol, gwydnwch neu ddiogelu). Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru neu ddiweddaru eich proffil, byddwch chi’n gweld sgrin unigryw bob tro y byddwch chi’n ymweld â’r safle, gyda’r
cynnwys wedi’i gyflwyno yn ôl yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Dysgu a rhannu ag eraill yn y sector
Yr ardal Eich Rhwydwaith ar yr Hwb Gwybodaeth yw lle mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru’n dod ynghyd i gysylltu ag eraill, rhannu arferion da a chefnogi ei gilydd.
Mae rhwydweithiau ar-lein yr Hwb yn cynnig man cydweithredol i gysylltu â chymheiriaid yn y sector, rhannu arferion da, gofyn cwestiynau a siarad am lwyddiannau a heriau.
Cyrsiau a chanllawiau newydd
Mae’r Hwb Gwybodaeth wedi ehangu ei ddetholiad o gyrsiau dysgu o bell ac adnoddau.
Mae’r cyrsiau hyfforddi newydd ar-lein yn cynnwys:
Ac yn dod yn fuan:
- Cynllunio ac ysgrifennu cynnig cyllido llwyddiannus
- Datblygu strategaeth codi arian
Mae’r adnoddau sydd newydd eu hychwanegu at yr Hwb yn cynnwys:
Mae hefyd amrywiaeth o adnoddau newydd ar ymgyrchu a dylanwadu.
Rhowch gynnig arno eich hun
I weld sut gallai’r Hwb Gwybodaeth eich helpu chi, ewch i thirdsectorsupport.wales a chofrestru am ddim.
Rhwydwaith o fudiadau cymorth ar gyfer holl sector gwirfoddol Cymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’n cynnwys yr 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) a’r corff cymorth
cenedlaethol, CGGC.