Mae’r Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau o £1,000 hyd at £10,000 i gefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd. Nod y cyllid o £2.5 miliwn, Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed, yw i ymgysylltu pobl gyda COP26 ac ysbrydoli gweithredu cadarnhaol o ran yr hinsawdd. Gall prosiectau fod yn rhai bach on dylai pob un adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'ch cymuned. Gallent gynnwys themâu fel:
• bwyd
• trafnidiaeth
• ynni
• gwastraff a defnydd
• yr amgylchedd naturiol.
Gwahoddir ceisiadau gan sefydliadau dielw, megis: grwpiau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, mentrau cymdeithasol, a sefydliadau statudol, megis: ysgolion, a chynghorau cymuned.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Tachwedd 18fed 2021 am 5yh