Dywedwch ychydig wrthym am eich achos a'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn y gymuned:
-Rydym yn darparu gwasanaeth gwrando ar gyfer y rhai sydd yn bryderus, yn unig, mewn trallod neu hyd yn oed yn meddwl diweddu eu bywydau. Rydym hefyd yn ymestyn i'r Gymuned i roi gwybodaeth am a thrafod ein gwasanaeth trwy dargedu'r rhai sydd yn fwyaf tebygol o ddiweddu eu
bywydau - e.e. pobl ifanc 16-25 oed, dynion yn gyffredinol, y Gymuned Amaethyddol, cymunedau sydd wedi eu dychryn gan hunanladdiad diweddar ac ati.
Sut glywsoch chi am y loteri a beth wnaeth i chi benderfynu ymuno?
-Daeth gwybodaeth o Loteri Lwcus trwy ein haelodaeth o CGGC a phenderfynu ymuno gan ei fod yn ffordd hwylus o godi arian at yr elusen.
A oes prosiect neu wasanaeth penodol yr ydych yn gobeithio codi arian ar ei gyfer?
-Mae'r arian a godir yn cyfrannu tuag at y £25,000 y flwyddyn mae'n rhaid i ni godi i gadw ein Canolfan ni ar agor. Mae ymuno yn ffynhonnell bwysig o godi arian.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i achosion eraill sy'n ystyried ymuno â'r loteri?
-Rhaid meddwl a sicrhau ffynonellau gwahanol i roi gwybod i gefnogwyr am Loteri Lwcus a sut i ymuno a'r Cynllun.