Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn parhau i droi i greu newid
Mae Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr sydd bellach yn ei 7fed flwyddyn yn parhau i gefnogi ein cymunedau yn ystod cyfnod heriol a chyfnewidiol. Ar ôl buddsoddi £4 miliwn eisoes mewn cynlluniau ar draws cymunedau arfordirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, mae’r gronfa bellach ar agor ar gyfer ystod o geisiadau grant bach a mawr. Os oes gennych chi / eich mudiad hedyn o
brosiect a, neu'n chwilio am gyllid i ddatblygu menter gymunedol, yna efallai y gallwn ni helpu !
Mae gennym y rhaglenni grant canlynol ar gael: -
Grantiau Micro £100 - £1,000
Grantiau Adfer Covid £100 - £5,000
Grantiau Bach £1,000 - £10,000
Grantiau Mawr £10,000 - £50,000
Am ragor o wybodaeth a manylion cronfa benodol ewch i'r adran grantiau ar ein gwefan: https://www.cvsc.org.uk neu anfonwch e-bost atom: grants@cvsc.org.uk
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.