Newyddion
Croeso i rhifyn mis Gorffennaf o fwletin newyddion CGGC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan
hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
CGGC yn cyrraedd carreg
filltir o 25 mlynedd!
Mae CGGC yn dathlu 25 mlynedd ers cefnogi, datblygu a hyrwyddo gweithgarwch
gwirfoddol yma yng Nghonwy!
Rydym yn hynod falch o’n cyflawniadau hyd yma, ac yn edrych ymlaen at ein dathliadau blwyddyn o hyd gan gynnwys digwyddiad diwrnod arddangos arbennig gyda phartneriaid trydydd sector a CCB yn Neuadd y Dref Llandudno ddydd
Mercher 19eg Hydref.
Cynnig
Cymraeg
Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi fod CVSC wedi bod yn llwyddiannus mewn derbyn cymeradwyaeth Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ein Cynnig Cymraeg. Dyma lun o Elgan Owen ein Swyddog Cyswllt gyda Dirpwy Gomisiyndd y Gymraeg, Gwenith Price, yn derbyn ein tystysgrif yn ystod diwrnod y Cynnig Cymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd.
Ni yw’r CVC cyntaf yn Nghymru i dderbyn y gymeradwyaeth hon.
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Digwyddiad Dathlu Gwirfoddolwyr 2022
Croesawyd cynrychiolwyr o 15 o sefydliadau gennym i’n digwyddiad Dathlu Gwirfoddolwyr wyneb yn wyneb cyntaf ar 7fed o Fehefin yng Nghanolfan y Drindod,
Llandudno, i gydnabod y cyfraniadau gwerthfawr a wneir gan ein gwirfoddolwyr anhygoel! Daeth y digwyddiad hwn â dathliadau'r Wythnos Gwirfoddolwyr genedlaethol i ben – penllanw ein hymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol â lansiad y Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc ar y Diwrnod Ffocws Ieuenctid dydd Llun.
Hyfryd oedd cael clywed am yr holl wirfoddoli tra gwahanol sy'n digwydd, cyfarfod pawb a chael sgwrs hirddisgwyliedig dros de a chacen
hyfryd!
Croesawodd Mary Trinder, y Cadeirydd, bawb a dywedodd “amser i ddiolch i’n holl wirfoddolwyr gwych ni sydd, drwy eu cyfraniadau, yn gwneud ein bywydau a’n
cymunedau ni gymaint yn well!”
Dyma ddetholiad o luniau o'r digwyddiad, ond plis ewch î gael gwybod mwy am y gwirfoddolwyr a gweld mwy o luniau ar ein gwefan ni yma.
Mary Trinder, y Cadeirydd, gyda Carol Marubbi, Maer Tref Llandudno, a chadeirydd lleoliad
Canolfan y Drindod
Kerry Scanlon gyda 2 wirfoddolwraig, Debbie Bennett a Lauren Owen, o'r Centre of Sign, Sight, Sound
|
Un o brif elusennau dementia Cymru – wedi bod yn trefnu sesiynau canu wythnosol i bobl â dementia a’r rhai sy’n eu cefnogi. Dywedodd yr elusen bod eu gweithgarwch yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd yn rhedeg grŵp yn Abergele hefyd bellach. Y nod yw dod â llawenydd a chwerthin i fywydau'r rhai
sy'n byw gyda neu ochr yn ochr â dementia. Mae sesiynau canu yn meithrin ymdeimlad o werth, ac yn cyfoethogi bywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ddementia – drwy greu grŵp newydd o ffrindiau i berthyn iddo. Mae angen gwirfoddolwyr i ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb i gefnogi'r grŵp, a helpu gyda gweini te a bisgedi. Os ydych chi’n cael eich ysbrydoli gan gerddoriaeth ac os hoffech chi wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia yn ein cymuned ni, efallai mai dyma'r rôl i chi.
|
Mae Grŵp Llais, Symudiad a Chymdeithasol Re-engage ar gyfer y rhai 75 oed a hŷn yn cyfarfod bob pythefnos yn Ystafell Eglwys Dewi Sant ym Mae Penrhyn. Mae’r aelodau yn gwneud ymarfer corff ysgafn iawn am tua awr ac wedyn awr gymdeithasol boblogaidd iawn yn llawn sgwrsio wrth fwynhau te a
bisgedi a thrin a thrafod unrhyw newyddion am lawer o bethau sy’n digwydd yn yr ardal. Mae'r sesiwn yn rhad ac am ddim ac mae digon o le parcio ar gael. Ar hyn o bryd maent yn chwilio am Gydlynydd Grŵp Gwirfoddol i helpu i redeg y grŵp drwy drefnu gweithgareddau, cysylltu â gwesteion gweithgareddau cyn iddynt ymuno â'r grŵp, a dilyn yr arweiniad yn eich modiwlau hyfforddi i sicrhau bod cyfarfodydd y grŵp yn bleserus, yn briodol ac yn unol ag amcanion elusennol Re-engage. Fel un o’r gwirfoddolwyr
gwerthfawr, byddwch yn derbyn hyfforddiant, cefnogaeth gan Re-engage, a chyfathrebu rheolaidd gan yr elusen. Mae hon yn rôl bleserus sy’n rhoi llawer o foddhad a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau arwain, ennill profiad gwerthfawr gydag elusen genedlaethol ac, yn bwysicaf oll, cysylltu â phobl hŷn unig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i'w bywydau. Mae sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol yn ddymunol. Bydd gofyn i chi gwblhau archwiliad DBS ar gyfer y rôl hon a
bydd Re-Engage yn talu'r gost.
|
|
|
Canolfan Gymunedol Bryn Cadno
Mae Canolfan Gymunedol Bryn Cadno (Bae Colwyn Uchaf) yn elusen gofrestredig sy’n cael ei gweithredu gan fwrdd o ymddiriedolwyr, sydd i gyd yn wirfoddolwyr. Mae'r ganolfan yn cael ei llogi gan gleientiaid sy'n cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithgareddau i oedolion a phlant. Mae’r
ymddiriedolwyr, ynghyd â grŵp bach o wirfoddolwyr, yn trefnu gweithgareddau ar gyfer aelodau’r gymuned hefyd. Ar hyn o bryd maent yn chwilio am Wirfoddolwyr a hoffai ymwneud â gweithredu’r ganolfan gyda'r posibilrwydd o ddod yn Ymddiriedolwr yn y tymor hwy. Byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar a chefnogol o Wirfoddolwyr sy'n gofalu am y ganolfan ac yn parhau i sicrhau ei bod yn chwarae rhan berthnasol yn y gymuned. Mae llawer o dasgau gwahanol y gallech fod eisiau cymryd rhan ynddynt, o dasgau
cynnal a chadw bach i fân atgyweiriadau, garddio ac ati i helpu gyda gweithgareddau codi arian a chymdeithasol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu'r gymuned ym Mae Colwyn Uchaf, efallai mai hon yw’r rôl i chi.
|
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu
gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid?
Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol:
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC.
Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ateb heb risg,
heb ffioedd, i godi arian ar-lein – a nawr mae gennym reswm ychwanegol i chi gofrestru – taleb Currys PC World gwerth £1,000.
Mae ein loteri eisoes yn helpu achosion lleol i godi arian di-ben-draw drwy gydol y flwyddyn. Gall y rhan fwyaf o grwpiau dielw gofrestru i ddechrau
defnyddio'r ateb codi arian cymunedol ar-lein yma heddiw!
Bydd eich cefnogwyr yn cael cyfle i ennill gwobrau ariannol o hyd at £25,000 bob wythnos!
Hefyd, os ydych chi wedi'ch cofrestru a'ch cymeradwyo cyn dydd Sadwrn 27 Awst byddwch yn cael cyfle i ennill gwobr genedlaethol ychwanegol i
hyrwyddo cefnogwyr newydd posibl – taleb Currys PC World gwerth £1,000! Does dim byd i'w golli, gan fod y rhan fwyaf o gefnogwyr yno i gefnogi eich achos – dim ond bonws ychwanegol yw'r siawns o ennill gwobr!
Ond beth yw’r anfantais? Dim byd! Dim ond £1 yr wythnos yw pris y tocynnau loteri gyda mwy yn mynd yn uniongyrchol i'ch achos chi na mewn unrhyw loteri
fawr arall. Gallwch weld yn union ble mae pob ceiniog yn mynd ar ein gwefan ni.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dweud wrth gynifer o bobl ag y gallwch chi i'ch cefnogi drwy eich tudalen loteri. Gyda dim ond 50 o chwaraewyr rheolaidd gallech chi godi mwy na £1,000 y flwyddyn – ac mae’r chwaraewyr yn aml yn rhoi eu henillion yn ôl i'ch achos chi hefyd! Ewch amdani? Does
dim risg o gwbl, dim ffioedd ymlaen llaw, a dim trafferth – cofrestrwch NAWR i ddechrau codi mwy o arian, yn https://cvsc.org.uk/cy/
|
|