Dywedwch ychydig wrthym am eich achos a'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn y gymuned:
-Mae Stepping Stones Gogledd Cymru yn elusen sydd wedi'i sefydlu ers 38 o flynyddoedd, yn darparu cefnogaeth
hanfodol i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol yn ystod eu plentyndod. Rydym yn darparu cwnsela therapiwtig proffesiynol a chefnogaeth deuluol ar draws chwe sir Gogledd Cymru am ddim. Rydym hefyd yn darparu ystod eang o gefnogaeth un i un. Gall dynion a merched hunanatgyfeirio neu gael eu cyfeirio gan weithiwr proffesiynol.
Sut glywsoch chi am y loteri a beth wnaeth i chi benderfynu ymuno?
- Clywsom am y loteri drwy CGGC, a phenderfynwyd ymuno gan
ein bod yn teimlo ei bod yn ffordd dda iawn o godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol i’n helusen i gefnogi ein gwasanaethau a hefyd yn ffordd o gefnogi elusennau yn gyffredinol yn ein cymuned leol.
A oes prosiect neu wasanaeth penodol yr ydych yn gobeithio codi arian ar ei gyfer?
- Rydym eisiau gallu darparu mwy o sesiynau cwnsela, i'r rhai sydd mewn angen hanfodol, a hefyd codi ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau, yn
enwedig ein cynghorwyr trais rhywiol newydd i Bobl Ifanc
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i achosion eraill sy'n ystyried ymuno â'r loteri?
- Ymunwch Nawr! Pob canlyniad yn gadarnhaol a ffordd mor
hawdd o gefnogi'ch achos. Cefnogaeth broffesiynol gan Loto Lwcus bob amser ac rydym wedi cael llawer o enillwyr!