Mae ein rhaglen newydd, Crowdfund Wales, yn rhoi cyfle gwych i sefydliadau godi arian ychwanegol drwy gyllido torfol. Bydd y cyfranogwyr yn derbyn y canlynol:
• Aelodaeth flynyddol â chymhorthdal o Localgiving
• Mentor cyllido torfol a hyfforddiant parhaus
• Datgloi grant o £250 pan fyddwch yn cynnal ymgyrch gyllido torfol lwyddiannus
Bydd eich mentor yn eich cefnogi chi i gyflwyno ymgyrch gyllido torfol i godi o leiaf £2,000 drwy godi arian ar-lein, ac yn rhoi'r adnoddau a'r sgiliau i chi i barhau â'ch siwrnai codi arian ar-lein.
I elwa o raglen Crowdfund Wales, cwblhewch eich cofrestriad drwy ddilyn y ddolen isod gan ddefnyddio'r cod hyrwyddo WALES150 a byddwch yn derbyn ffurflen gais fer i gwblhau eich cyfranogiad.
https://join.localgiving.org/cymru