Newyddion
Croeso i rifyn mis Mehefin o fwletin ariannu CVSC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan hon o’r wlad.
A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
Yma fe welwch y newyddion diweddaraf gan Dîm Gwirfoddoli
Wythnos Gwirfoddolwyr 2021
"Gadewch i ni ddathlu" gyda CGGC, ar gyfer 'Amser Dweud Diolch' yn ystod ein hamserlen o Ddigwyddiadau drwy gydol Wythnos Gwirfoddolwyr 1af-7fed Mehefin! Peidiwch ag anghofio ymuno â ni ar gyfryngau cymdeithasol @conwyvol
#WythnosGwirfoddolwyr
Symposiwn Gwirfoddoli Gogledd Cymru
I logi eich lle yn y Symposiwm
Fe fyddwn ni wedi ein lleoli
ym Meddygfa Betws-y-Coed a Meddygfa Cerrigydrudion lle bydd y cerbyd yn cael ei rannu a’i ddefnyddio fel darpariaeth i bobl fregus sydd eisoes yn methu trefnu cludiant i fynd i’w hapwyntiadau gyda’u meddyg teulu.
Betws- Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Cerrigydrudion- Dydd Iau a Dydd Gwener
Mae angen Gyrwyr Gwirfoddol arnom hefyd i gludo'r cerbyd o Fetws i Gerrig ac yn ôl yn ystod yr wythnos.
Ar ôl sefydlu’r apwyntiadau gyda meddyg teulu, gellid defnyddio’r cerbyd ar gyfer rhoi sylw i anghenion “llesiant” eraill gan ddibynnu ar argaeledd y cerbyd a’r gyrwyr gwirfoddol.
Law yn llaw â’r prosiect yma, byddem yn hoffi edrych ar sut gallai’r cymunedau lleol helpu hefyd i wella cludiant o’r cartref i ysbyty gan ddefnyddio gyrwyr gwirfoddol yn y car a hefyd yn ceir eu hunain.
Am fwy o wybodaeth neu i wirfoddoli anfonwch e-bost i: anniemills@cvsc.org.uk neu gysylltu â ni ar 01492 523857
Sian Jenkinson @ Youth Shedz
Ethos Youth Shedz yw cael ei gynllunio a'i hwyluso gan y bobl ifanc mae'n eu gwasanaethu yn yr ardal maent yn byw ynddi.
Ymunais â'r tîm yn 2020 drwy Covid, ac er bod gennyf rywfaint o brofiad o gefnogi gwirfoddolwyr, roedd y rôl o sefydlu swyddogaethau gwirfoddoli, cofrestru ar y platfform gwirfoddoli a'r gwaith ar bolisïau gwirfoddoli i gyd yn newydd iawn – aeth CGGC â mi drwy bopeth gam wrth gam, gan fy nghynghori a'm
harwain ar hyd y ffordd. Mae CGGC wedi darparu cymorth allweddol o ran recriwtio gwirfoddolwyr addas ar gyfer y prosiect ac wedi ein cefnogi ni i sicrhau bod y diogelu, y polisi a'r gweithdrefnau yn eu lle, fel eu bod yn rhoi tawelwch meddwl i ni bod angen i ni gadw ein pobl ifanc yn ddiogel, ac o ganlyniad rydym eisoes wedi recriwtio un neu ddau o wirfoddolwyr anhygoel.
|
|
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Mae CGGC yn cydlynu digwyddiad misol cyfarfod y cyllidwr mewn partneriaeth â:
- Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Clocaenog
- Comic Relief
- Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr
- Cronfa Gymunedol Gwastadeddau'r Rhyl
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru,
ynghyd â Swyddog Cyllid CGGC i ddarparu cyngor ariannol, canllawiau datblygu prosiect a chymorth sefydliadol. Mae grwpiau'n cael slotiau 45 munud ar gyfer amser ymgysylltu un i un.
Mae’r Grant Busnes Clocaenog nawr ar agor
Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc Sesiwn Wybodaeth
Eisiau dysgu mwy am y Gronfa Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid, a chlywed sut mae prosiectau yn y gorffennol, wedi'u cyllido gan yr arian hwn, wedi bod o fudd i'r gwirfoddolwyr ifanc?
Os oes, archebwch i fynychu'r Digwyddiad Gwybodaeth am Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid fore dydd Iau 3ydd Mehefin, 11yb – 12yp.
I archebu'ch lle ewch i cvscconwy.eventbrite.co.uk
Mae ein rhaglen newydd, Crowdfund Wales, yn rhoi cyfle gwych i sefydliadau godi arian ychwanegol drwy gyllido torfol. Bydd y cyfranogwyr yn derbyn y canlynol:
• Aelodaeth flynyddol â chymhorthdal o Localgiving
• Mentor cyllido torfol a hyfforddiant parhaus
• Datgloi grant o £250 pan fyddwch yn cynnal ymgyrch gyllido torfol lwyddiannus
Bydd eich mentor yn eich cefnogi chi i gyflwyno ymgyrch gyllido torfol i godi o leiaf £2,000 drwy godi arian ar-lein, ac yn rhoi'r adnoddau a'r sgiliau i chi i barhau â'ch siwrnai codi arian ar-lein.
I elwa o raglen Crowdfund Wales, cwblhewch eich cofrestriad drwy ddilyn y ddolen isod gan ddefnyddio'r cod hyrwyddo WALES150 a byddwch yn derbyn ffurflen gais fer i gwblhau eich cyfranogiad.
https://join.localgiving.org/cymru
|
|
Ar ddechrau pandemig COVID-19, cysylltodd Gorsaf Bad Achub y Rhyl â Gwynt y Môr am gyllid posibl ar gyfer PPE (Cyfarpar Diogelu Personol) i’w gwirfoddolwyr hanfodol. Gyda'r swm o £2,000 a ddyfarnwyd gan Gwynt y Môr darparwyd PPE i'r holl staff, aelodau criw y bad achub a gwirfoddolwyr hanfodol yng Ngorsaf Bad Achub y Rhyl yn ystod gweithgarwch cysylltiedig â'r orsaf, e.e. achub, hyfforddi, rheolaeth weithredol a
glanhau.
|
|
"Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gronfa Buddsoddi Cymunedol Gwynt y Môr am eu cefnogaeth i ariannu ein PPE yng Ngorsaf Bad Achub y Rhyl. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i ni ac mae wedi bod yn wych gweld y gefnogaeth gan y Gronfa a'r gymuned ehangach pan oedden ni mewn angen mwyaf. Ar ran aelodau'r criw gwirfoddol yn y Rhyl, diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth hael.
Gyda'ch cefnogaeth chi, roedd y criw yn gallu parhau i weithredu eu badau achub drwy gydol y pandemig, gan lansio i helpu pobl mewn helynt ar y môr. Lansiodd y criw ei fadau achub Mary Maxwell ac Anthony Kenneth Heard gyfanswm o 57 o weithiau yn 2020, gan helpu 31 o bobl a fyddai wedi bod mewn perygl difrifol fel arall.
|
|
Mae loteri gymunedol Loto Lwcus yn cynnig cyfle gwych i fudiadau nid-er-elw lleol godi arian parhaus mewn ffordd ddiogel ac effeithiol ar-lein, a hefyd, does dim ffi
gofrestru!
Mae'r Loteri yn adnodd codi arian ar-lein AM DDIM ar gyfer achosion da lleol, i'w ddefnyddio yn eu hymgais i godi arian. Ymunwch â mwy na 30 o achosion da yn Sir Conwy sydd eisoes yn codi arian hanfodol bob mis. Mae un o'r achosion da sy'n perfformio orau, The Kind Bay Intiative, eisoes ar y trywydd iawn i godi bron i £1,400 y flwyddyn! Gallwch chi wneud hyn hefyd!
|
|