Newyddion
Croeso i rifyn mis Awst o fwletin newyddion CVSC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Rydym yn cymryd seibiant o’n digwyddiad ‘ Cyfarfod y Cyllidwr’ ym mis Awst, ond mi fyddwn yn ôl ym mis Medi. Felly cadwch olwg am y dyddiad nesaf ac fe welwn i chi cyn bo hir!
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi penodi Eirian Jones o Lanfair Talhaiarn yn Swyddog Cyllid i gefnogi cymunedau yng Nghonwy a'r ardal.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda grwpiau cymunedol ym mro fy mebyd. Byddaf yma i rannu gwybodaeth gyda’r gymuned leol am y grantiau sydd ar gael, ac yn eu cefnogi wrth ymgeisio.”
Mi fydd Eirian yn ymuno gyda thîm grantiau CVSC yn fisol yn ystod ein sesiynnau cyfarfod y cyllidwr.
|
|
Cronfa Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Ardordir Gogledd Orllewin Cymru Gweinyddir Cronfa Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy a Gogledd Orllewin Cymru gan CGGC ar ran Creu Menter a Thrafnidiaeth Cymru
Mae grantiau o hyd at £250.00 ar gael i grwpiau cymunedol sy'n gweithredu o fewn radiws o 5 milltir/ 8km i orsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy neu Ogledd Orllewin Cymru.
Mae meini prawf y grant yn agored fel bod amrywiaeth eang o weithgareddau'n gallu cael eu hystyried. Cyn belled â bod y grŵp yn gallu dangos yr effaith ar y gymuned a sut bydd y cyllid yn helpu i'w cynnal neu eu gweithgarwch, yna bydd eu cais yn cael ei ystyried.
Yn 2018, cynigiodd rhwyfwr brwd sefydlu clwb o Ddeganwy gan ddefnyddio seilwaith Clwb Hwylio Conwy.
Y nod oedd datblygu criw craidd o rwyfwyr o’r un anian a fyddai’n cymryd rhan yn nigwyddiadau rhyng-glybiau Arfordir Cymru yn seiliedig ar y cwch rhwyfo eiconig hwn. Bu’n bleser gan Gronfa Fferm Wynt Gwynt y Môr ariannu a chaffael cwch newydd a chaniatáu i’r clwb dyfu.
Tua diwedd 2018, roedd grŵp cychwynnol o lond llaw o ddynion ac ambell ddynes o bryd i’w gilydd a fyddai’n mentro allan unwaith neu ddwy yr wythnos. Ym mis Ionawr 2019, cynigiwyd rhwyfo drwy’r grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel rhywbeth gwahanol a allai helpu pobl i gyflawni eu haddunedau Blwyddyn Newydd. Daeth hyn â nifer o ferched newydd i’r clwb. Gan gydnabod hwn fel cyfle, canolbwyntiom ar rwyfo i ferched yn unig a chawsom
ganlyniad sylweddol. Drwy gefnogaeth frwd a’r gair yn lledaenu, buan y tyfodd adran y merched i gynnwys dros 40 aelod. Roedd y merched a ymunai mewn amgylchedd diogel ac roeddem yn cynnig rhywbeth i bob oed, profiad a lefel ffitrwydd.
|
|
Cyn hir, datblygodd adran y merched rwydweithiau ar y cyfryngau cymdeithasol a chynhelid sesiynau rheolaidd yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnosau. Pennwyd yr amseroedd er mwyn cyd-fynd â gwahanol anghenion a niferoedd, ond yna cododd problemau o ran gallu. Er mwyn gallu cynyddu nifer y merched wrth y llyw, cynhaliom weithdai a chychwyn rhaglen fentora ac rŵan rydym yn elwa o
ganlyniad hyn, sef merched abl a hyderus wrth y llyw.
Mae rhwyfo ar ei orau pan fo’r criw mewn cytgord yn hytrach na mewn cystadleuaeth. Mae’n rhoi llwyfan cadarnhaol gydag adborth uniongyrchol, sy’n addas iawn ar gyfer y gymuned newydd hon. Yn ogystal, mae’r math hwn o rwyfo gyda seddau sefydlog yn caniatáu dull sy’n gwella ffitrwydd a lles meddwl mewn ffordd braf heb fod yn feichus.
“Gosodais i her i mi fy hun, sef dod o hyd i weithgaredd tîm ar y penwythnos. Ym mis Mai 2021, es i allan am y tro cyntaf yn y cwch hir Celtaidd. Wel am brofiad braf! Bellach, mi fydda’ i’n edrych ymlaen at fore Sadwrn drwy’r wythnos. Rydw i’n teimlo’n ddewr, mae’n rhywbeth cyffrous ac rydw i’n rhan o dîm rhwyfo, ia, tîm rhwyfo! Mi fydda i’n dysgu ac yn gwthio fy hun bob wythnos. Mi fydda i’n chwerthin lot, yn myfyrio, yn dod yn nes
at natur. Beth well i roi hwb i hyder a lles rhywun?”
Aelod o Glwb Rhwyfo i Ferched Deganwy.
|
|
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus yn ffordd hwyliog ac effeithiol i'ch achos da godi arian. Efallai y bydd angen ymgynghori ag aelodau eraill yr achos da all-lein. Neu efallai eich bod chi eisiau helpu i ledaenu'r gair. Mae'r daflen y gellir ei
hargraffu yn ffordd wych o wneud hynny! Llenwch y ffurflen a byddwn yn e-bostio dolen atoch chi.
|
|