Newyddion
Croeso i rifyn mis Medi o fwletin newyddion CVSC!
Yn yr e-fwletinau misol hyn mae’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf angenrheidiol am y trydydd sector. Mae yma hefyd newyddion am gyllid, hyfforddiant a digwyddiadau eraill sydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol a chymunedol yn y rhan hon o’r wlad. A hyn i gyd yn syth i’ch mewnflwch!
Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw wybodaeth neu eitemau yr hoffech chi i ni gynnwys yn y rhifyn nesaf!
|
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid. Am wybodaeth a chyfarwyddyd diweddar am ffynonellau o arian argyfwng a chyllid cyffredinol tymor hwy, ewch i www.funding.wales neu gysylltu ar 01492 523843 neu grants@cvsc.org.uk
Gweithio yn y trydydd sector? Oes gan eich grŵp chi syniad am brosiect? Chwilio am gyllid?
Mae CGGC yn hyrwyddo ‘Cyfarfod y Cyllidwr’ misol yn benodol ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol. Yn bresennol mae'r canlynol:
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cronfeydd Ffermydd Gwynt Gwastadeddau'r Rhyl a Gwynt y Môr, Comic Relief a Swyddog Cyllid CGGC.
Os na allwn eich helpu yn uniongyrchol byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cyfeirio at asiantaethau cyllido priodol eraill. I archebu lle, cysylltwch â ni nawr ar grants@cvsc.org.uk
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi'n fuan!
Dim Risg. Dim Ffioedd. Mwy o Godi Arian!
|
|
Mae Loto Lwcus eisoes yn helpu mwy na 30 o achosion lleol i godi arian digyfyngiad drwy gydol y flwyddyn. Gall y mwyafrif o grwpiau nid-er-elw lleol gofrestru i ddechrau defnyddio'r datrysiad codi arian cymunedol ar-lein
heddiw! Nid oes unrhyw gostau ymlaen llaw, mae'n gyflym ac yn hawdd cofrestru ac ar ôl cael eich cymeradwyo, cewch:
- Eich tudalen we eich hun ar wefan y loteri
- Strwythur gwobrau dim risg i helpu i ennyn diddordeb eich cefnogwyr
- Cyfoeth o ddeunydd marchnata a chefnogaeth i helpu gyda’ch ymgyrch codi arian
- Incwm misol cyson ar gyfer eich achos da yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc
Hefyd, os ydych wedi'ch cofrestru a'ch cymeradwyo cyn y 30ain o Hydref byddwch yn cael mynediad i'r cynnig bonws ychwanegol i'w hyrwyddo i ddarpar gefnogwyr newydd - £1000 mewn talebau John Lewis! Mae gan eich cefnogwyr siawns o ennill gwobrau ariannol hyd at y jacpot o £25,000 bob wythnos! Mae pawb ar eu hennill gan nad yw'ch cefnogwyr ffyddlon yn cymryd rhan i ennill fel rheol, mae nhw eisiau eich
helpu chi i helpu'r gymuned leol. Mae'r siawns o gael gwobr yn fonws ychwanegol!
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw dweud wrth gynifer o bobl ag y gallwch chi i'ch cefnogi trwy'ch tudalen loteri. Bydd 50 tocyn yr wythnos yn codi £1300 yn flynyddol ac ar gyfartaledd mae chwaraewyr fel arfer yn prynu mwy nag 1 tocyn!
Am beth ydych chi'n aros? Cofrestrwch i ddechrau codi mwy o arian yma.
Beth yw cyfranddaliadau cymunedol?
- Math o ariannu torfol, lle mae'r gymuned yn prynu cyfranddaliadau mewn cymdeithas
- Menter codi arian i adeiladu cymunedau cryfach, mwy bywiog ac annibynnol
- Fe'i defnyddir yn aml i achub gwasanaethau ac amwynderau hanfodol fel cyfleusterau cymunedol, tafarndai, siopau
- Yn gallu ariannu sefydliadau newydd, megis ariannu cynlluniau ynni adnewyddadwy a chefnogi prosiectau tyfu bwyd lleol.
- Gall fod yn ffordd wych o arian cyfatebol i brosiectau a dangos ymgysylltiad cymunedol er mwyn helpu ymgeisio i ffynonellau cyllid eraill.
Os hoffech chi gael gwybod mwy, ymunwch â ni dydd Iau 9fed Medi 10 – 11.30am ar Zoom. Cliciwch ar y poster uchod i fynd i'n gwefan Eventbrite.
|
|